Mae Canolfan Hebogiaid Pen y Bryn yng nghanol ardal odidog a hardd Sir Ddinbych, Gogledd Cymru.  Mae’n cynnig cyfle unigryw i i brofi’r rheolaeth a’r cwlwm anhygoel a all fodoli rhwng dyn ac aderyn.

Mae’r sioeau’n cynnwys amryw o adar ysglyfaethus ac maent yn cynnig cyfle i chi, y gwyliwr, gymryd rhan a hyd yn oed i wisgo maneg ddur eich hun.  Mae ein hadar yn cynnwys Boncath Cynffon Goch, Tylluan Eryraidd Bengal,  Hebog Tramor, Tylluan Wen, Hebog Pere-Saker, Hebog Gyr-Saker, Hebogiaid Harris, Tylluan yr Eira a llawer mwy.

Pa un ai a ydych am ddysgu sut i drin yr adar gwych hyn, neu dim ond am eu gwylio’n hedfan, mae gan Ganolfan Hebogiaid Pen y Bryn bopeth wrth law i drefnu’ch diwrnod perffaith.  Cynigiwn arddangosfeydd corfforaethol, dyddiau hyfforddi, digwyddiadau a sioeau ar y fferm.
 
Archebu
 
Cymerwch ran mewn antur unigryw, o brofiad awr i gwrs tri diwrnod, gallwn ddarparu cymaint o hyfforddiant ag sydd ei angen arnoch neu dim ond y cyfle i fwynhau’r adar.
 
Rydym hefyd yn cynnig partïon i’w cofio ar y fferm gyda’r lluniaeth wedi ei baratoi yn y  caffi sydd ar y safle. 
 
Cyflwyniad Awr
Cwrs Hanner Diwrnod
Cwrs Diwrnod Cyfan
Cynorthwy-ydd yr Hebogydd
Hyfforddi Adar
Adeiladu Tîm
Sioeau Statig
Sioeau Hedfan
Arddangosfeydd Cyhoeddus
Partïon
Sgyrsiau ar ôl Cinio
Priodasau
 
a llawer mwy
 
 
Pan fyddwn yn trefnu ymweliad fe fydd ar eich cyfer chi a’ch grŵp chi yn unig, credwn ein bod yn cynnig profiad llawer mwy personol i chi ac yn rhoi amser i chi weld yr adar yn unigol. 
 
Oherwydd bod angen teilwra pob pecyn yn bwrpasol i weddu i grwpiau unigol a fyddech cystal â ffonio am brisiau a byddwn yn hapus i gynnig pris i chi. 
 
Ymwrthodiad

Ceidw Canolfan Hebogiaid Pen y Bryn yr hawl i dynnu unrhyw atyniad yn ôl heb rybudd.