Gallwn ddarparu arddangosfeydd statig ac arddangosfeydd hedfan yn cynnwys hyd at 10 o adar er mwyn dod â rhywbeth ychydig yn wahanol i’ch digwyddiad corfforaethol.  Mae gan y rhai sy’n trin yr adar brofiad helaeth o berfformio mewn digwyddiadau a sioeau o amgylch y wlad.

Rydym hefyd yn cynnig sesiynau gweithgareddau adeiladu tîm sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer grwpiau unigol.  Gallant bara am awr, neu gellir eu cynnal dros amryw o ddyddiau.  Trefnwch y pecyn gorau i chi gydag aelod o’n Tîm Cymorth neu gallwn gydweithio â’ch Tîm Cymorth chi i drefnu’r profiad gorau posibl i chi a’ch cwmni.