|
Credir mai hebogyddiaeth yw’r difyrrwch hynaf sy’n wybyddus i ddyn gyda’r cofnod cyntaf ohono’n mynd yn ôl cyn belled â 680 CC lle disgrifiodd y Tsieinďaid y grefft am y tro cyntaf. Credir i’r Rhufeiniaid ddysgu Hebogyddiaeth gan y Groegwyr yn 400 CC gan helpu i ledaenu’r difyrrwch hanesyddol ar draws Ewrop.
Gelwir hebogyddiaeth yn ‘Ddifyrrwch Brenhinoedd’, a chafodd ei ystyried yn hanesyddol fel symbol o statws a chafodd ei ymarfer gan foneddigion Ewrop a Siapan ffiwdalaidd yn y canoloesoedd.
Yn draddodiadol defnyddir yr adar canlynol mewn hebogyddiaeth; Gweilch y Pysgod, Eryrod y Môr, Eryrod Iawnryw, Boncathod, Hebogiaid Harris, Hebogiaid Iawnryw, Hebogiaid a hyd yn oed Tylluanod.
Mae hebogyddiaeth yn parhau i fod yr un mor boblogaidd heddiw ag y bu erioed; diolch i arddangosfeydd mewn sioeau a ffeiriau ar draws y wlad a’r defnydd o hebogiaid ar gyfer hela a rheoli bywyd gwyllt. Mae yna hyd yn oed hebog tramor o’r enw Calisto sy’n gwneud dyletswydd hynod o bwysig ar gyfer holl gefnogwyr tenis; mae’n dychryn y colomennod oddi ar y Prif Gwrt yn Wimbledon!
|