|
Mae Canolfan Hebogiaid Pen y Bryn yn cynnig cyfle i chi brofi arddangosfeydd hebogiaid cyffrous yng nghanol Sir Ddinbych. Os ydych yn chwilio am rywle i fynd ar drip ysgol neu ar ymweliad addysgol, diwrnod hyfforddi neu gwrs neu hyd yn oed os ydych ond am fwynhau diwrnod allan hwyliog mewn lle cyffrous yn ardal odidog Gogledd Cymru, gallwn drefnu’r profiad perffaith i chi. Dafliad carreg o Goedwig Clocaenog a’i lwybrau beicio mynydd helaeth, mae gennym gaffi ar y safle a digon o le i barcio sy’n rhoi cyfle gwych i chi weld ein tylluanod a’n hadar ysglyfaethus gwych.
Rydym hefyd yn cynnig profiadau unigryw i wneud eich digwyddiad arbennig yn wahanol i bob un arall. Os ydych yn trefnu sioe wledig, diwrnod o hwyl neu ddigwyddiad corfforaethol , yna gallwn berfformio arddangosfeydd i ddiddori pob oed. Rydym yn arbenigwyr mewn priodasau; gadewch i ni hedfan eich modrwyau at yr allor neu gadewch i’n hadar ychwanegu rhywbeth ychydig yn wahanol at eich lluniau priodas, yn enwedig os ydych yn trefnu priodas ar thema ganoloesol.
I drefnu ymweliad neu i drafod unrhyw un o’r profiadau yr ydym yn eu cynnig cysylltwch â ni ar y ffôn ar 07885 627240/07821 632437 neu anfonwch e-bost info@penybrynfalconry.co.uk
|
|