Pilgrim – Hebog Pere-Saker

Hebog croesryw yw Pilgrim ac mae’n fywiog ac egnïol.  Rydym yn y broses o’i hyfforddi ar hyn o bryd ac felly braidd yn ansicr o’i allu, ond mae’r disgwyliadau’n uchel. 
 
 
 
 
Casper – Tylluan Wen

Mae hwn yn aderyn bach cyfeillgar iawn a does dim y mae’n ei fwynhau’n fwy na dringo i fyny’ch coes neu eistedd ar eich ysgwydd. Ynghyd â’r Tylluanod Gwyn eraill gall hedfan modrwyau priodas at yr allor.                                         
 
 
 
 
Lady – Tylluan Wen

Mae’r aderyn hwn yn ‘diva’ bach ac mae’n hoffi dilyn ei thrywydd ei hun a chyda’i hwyneb tlws mae bob amser yn osgoi cosb.  Mae’n hynod o gyfeillgar ac mae’n hoffi eistedd ar eich maneg.
 
 
Jasper – Tylluan Wen

Mae’r aderyn bach hwn yn hynod o swil ac ef yw’r ieuengaf o’r pedair Tylluan Wen sydd gennym.  Rydym yn y broses o’i hyfforddi ar hyn o bryd ond disgwylir iddo fod yn aelod amhrisiadwy o’r tîm gan fod ganddo natur hyfryd.  
 
 
 
 
Womble – Tylluan Wen

Y dylluan hyfryd hon yw’r fwyaf profiadol o’r Tylluanod Gwyn, mae’n dda ac mae’n gwybod hynny.  Mae’n hedfan mor dawel â llygoden, a allwch chi ei chlywed yn dod cyn iddi eich dal?
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Taz – Tylluan Eryraidd Bengal

Mae Taz yn dylluan hyfryd ond mae’n aderyn ystyfnig! Mae newydd gwblhau ei hyfforddiant yn ddiweddar ac fe wnaiff hedfan atoch yn ei amser ei hun!  Mae’n dylluan hyfryd gyda llygaid ambr a  lled adenydd mawr sy’n werth ei weld ac mae  ganddo agwedd i gyd-fynd â’i enw,  sef y diafol o Dasmania.
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gina – Hebog Harris

Mae Gina yn aderyn mawr hyfryd gyda chymeriad gwych.  Mae’n hoffi cerdded drwy fynyddoedd Cymru, yn dilyn ar droed neu’n hercian ar hyd byst ffensiau a hefyd yn  dychryn y boblogaeth leol o lyffantod! Mae’n ddifyr ei gwylio. 
 
 
 
Bonney – Hebog Harris
Mae Bonney yn aderyn mawr ac mae ganddi dymer wyllt; hi yw ein haderyn hela ac mae’n cael ei hyfforddi ar hyn o bryd.  Mae’n ddeallus iawn ac yn hynod o bwerus.  Rydym yn disgwyl llawer gan yr aderyn ystyfnig hwn.
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Norman – Boncath Cyffredin

Mae gan yr aderyn golygus hwn gymeriad diddorol, ni chaiff neb fynd heibio iddo heb ddweud helo! Mae’n aderyn ifanc sydd wedi ymuno â’r tîm yn ddiweddar a disgwyliwn iddo fod yn hedfan yn rhydd yr haf hwn, unwaith y bydd wedi cwblhau ei hyfforddiant.
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Paddy – Hebog Harris

Mae’r aderyn hwn yn aelod profiadol o’r tîm arddangos.  Gall fynd drwy fylchau hynod o fach o ystyried ei led adenydd o dair troedfedd a hanner.  Mae’n aderyn eofn ac mae’n hoffi amlygrwydd; mae’n deall ei waith ac yn ei wneud yn dda.
 
 
 
Spectre – Tylluan yr Eira

Hen fabi yw Spec, a ddeorwyd mewn deorydd a’i fagu â llaw; mae’n dylluan olygus sy’n meddwl ei fod yn fachgen dwyflwydd oed ac sydd eisiau bod gyda chi drwy’r amser.  Does dim na allwch ei wneud gyda Spectre, er ei fod yn rhy ystyfnig i hedfan!
 
 
 
 Taran – Hebog Tramor

Mae’r hebog hwn yn hen law ac nid oes pall ar ei allu i ryfeddu. Efallai ei fod yn ei hen ddyddiau ond pan fydd yn yr awyr mae’n hedfan cystal ag unrhyw un o’r lleill.  Mae ganddo natur hyfryd ac mae’n hoffi hedfan cymaint fel ei bod yn cynhyrfu ac yn sgrechian!
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Grace – Hebog Gyr-Saker

Mae’r hebog croesryw hyfryd hwn yn gwneud yn ôl ei fympwy ei hun! Mae’n hoffi treulio’i hamser yn eistedd ar do tŷ yn gwylio’r byd o’i chwmpas.  Pan fyddwch yn meddwl na fydd y ‘diva’ eofn hon am ddod yn ôl, bydd yn hedfan i nôl ei gwobr yn gyflym iawn.
 
 
Yn ddiweddar fe wnaethom golli aelod gwerthfawr iawn o’n tîm, Jake, Hebog Cynffon Goch. Roedd Jake yn aderyn rhyfeddol a chaiff ei fethu’n fawr gan bawb a fu’n ddigon ffodus i weithio gydag o.  Roedd yn hen law ac yn aelod gwerthfawr o’r tîm, ni fydd yna fyth Hebog Cynffon Goch arall ag agwedd mor hamddenol.  Roedd yn aderyn nad oedd ganddo unrhyw ffiniau a helpodd lawer o bobl yn ei gyfnod; pa un ai a oedd i ddod dros yr ofn o adar neu i fagu hyder, gwnaeth ryfeddodau gyda phobl o bob oed a chefndir.  Mae’n golled fawr i’r tîm ar ei ôl ac rydym yn ei fethu’n arw.